JoyceJONESJoyce Penhill Yn dawel ar ddydd Sul 3ydd Tachwedd, 2019 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin hunodd Joyce, 'Bridge House', Llechryd yn 76 mlwydd oed, partner tyner Albert, mam a mam-yng-nghyfraith annwyl Delyth ac Ivor, Marc ac Amy; mamgu gariadus Tracey, Sarah a Callum; hen-famgu hoffus Liam, Keyano, Jac, Joey a Wil; ffrind a pherthynas hoffus. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yn Amlosgfa Aberystwyth dydd Mawrth 12fed Tachwedd, 2019 am 1.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof, os dymuner, tuag at Uned 'CDU' Glangwili (sieciau yn daladwy i ' League of Friends, Glangwili Hospital') d/o, Maldwyn Lewis, Ymgymerwr Angladdau, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffôn (01239) 851005. www.lewisfunerals.co.uk
Keep me informed of updates